info@thinklearnchallenge.com // 029 20865570

Cyrsiau HMS

Ystod eang o gyrsiau o ansawdd uchel gan
ein tîm hynod brofiadol ac arbenigol.

Cyrsiau HMS

Mae TLC yn credu’n angerddol fod gan bob dysgwr hawl i lwyddiant. Rydym yn ymdrechu i ddarparu'r cyngor, ymgynghoriaeth, hyfforddiant, ymchwil a deunyddiau ystafell ddosbarth o’r safon uchaf. Mae ein holl negeseuon a'n methodolegau allweddol yn seiliedig ar ymchwil addysgol cadarn sydd eisoes yn llwyddiannus. Dros y deng mlynedd diwethaf, mae TLC wedi gweithio gyda llywodraethau i ddatblygu polisi, awduro deunyddiau ystafell ddobarth a deunyddiau cwricwlaidd o ansawdd uchel a darparu hyfforddiant i filoedd o athrawon yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae ein holl gyrsiau hyfforddiant mewn swydd yn rhyngweithiol ac wedi'u cynllunio ar ffurf cyfres o weithdai ymarferol sy'n rhannu arfer orau, gan gwmpasu ystod eang o sgiliau, cymwyseddau a phynciau. Gellir eu cynnig ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae ein hyfforddiant yn amrywio o ran hyd, o sesiynau cyfnos i gyrsiau tri diwrnod a chaiff ei ddarparu ledled Cymru yn yr iaith fwyaf perthnasol ar gyfer y lleoliad. Mae'r holl ddeunyddiau ar gael yn ddwyieithog ac ar gael i gyfranogwyr yn electronig i'w defnyddio pan yn ôl yn yr ysgol.

 

CWRICWLWM I GYMRU

Mae ein holl gyrsiau HMS yn canolbwyntio ar y Cwricwlwm i Gymru. Mae ein cyfres o gyrsiau ar-lein o'r enw 'Adeiladu Cwricwlwm i Gymru sy’n rhoi lle canolog i’r dysgwr’, ar gael i'w harchebu ar hyn o bryd.

Rydym hefyd yn cynnig cwrs ar-lein rhad ac am ddim o’r enw Gwneud Synnwyr o’r Cwricwlwm i Gymru i’r rhai sy’n newydd i’w ddatblygiad ac sydd angen trosolwg o’r newidiadau.

Darganfod mwy

Asesu

Mae gan ein hymgynghorwyr flynyddoedd lawer o brofiad o ran datblygu a gweithredu asesu ffurfiannol a chrynodol. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o strategaethau a ddefnyddir o fewn asesu ar gyfer dysgu a safoni asesiadau a chymwysterau i lefel genedlaethol. Mae asesu ar gyfer dysgu yn rhan hanfodol o ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, ag sydd wedi’i wreiddio yn Cwricwlwm i Gymru ac fe brofwyd ei fod yn gwella deilliannau dysgwyr.

 

LLYTHRENNEDD DIGIDOL A’R FFRAMWAITH CYMHWYSEDD DIGIDOL

Mae llythrennedd digidol yn flaenoriaeth amlwg yng Nghymru, trwy gyfrwng Cwricwlwm i Gymru a'i Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD). Mae gan lawer o athrawon ddiffyg hyder o hyd i ddelio â'r her hon. Mae gan ein hymgynghorwyr ddealltwriaeth drylwyr o'r materion a'r heriau y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth weithredu'r FfCD ac ymgorffori Llythrennedd digidol yn eu hystafelloedd dosbarth. Ar ôl profi llwyddiant wrth gyflwyno rhaglen hyfforddi Llythrennedd digidol am gyfnod o dair blynedd ar ran y Cyngor Prydeinig, bydd ein hymgynghorwyr yn defnyddio eu harbenigedd i ddarparu cyngor a hyfforddiant ymarferol yn yr ysgol ar sut i ddefnyddio cyfryngau digidol yn effeithiol ac yn ddiogel i wella ansawdd gwersi.

 

YMARFER YSTAFELL DDOSBARTH AC ADDYSGEG

Mae Cwricwlwm i Gymru wedi'i ganoli ar y pedwar diben dysgu, gan ddefnyddio'r 12 egwyddor addysgol. Dros y blynyddoedd, rydym wedi cyflwyno nifer o gyrsiau oedd yn canolbwyntio ar y dibenion a'r egwyddorion hyn, gan gynnwys rhaglen hyfforddi 3 blynedd ar ran y Cyngor Prydeinig oedd yn canolbwyntio’n benodol ar Feddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau.

 

THEMÂU TRAWSGWRICWLAIDD

Wrth baratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru, mae ysgolion yn awyddus i ddatblygu mwy o ddulliau trawsgwricwlaidd ar gyfer dysgu. Mae gan TLC ystod eang o brofiad o ddatblygu cynlluniau dysgu trawsgwricwlaidd a gweithgareddau dosbarth.

 

Llythrennedd a Rhifedd

Mewn partneriaeth â Tinopolis, cafodd TLC y fraint o fod yn rhan o gefnogi cyflwyniad y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (FfLlRh) gan gynhyrchu’r Canllawiau prif ffrwd cychwynnol o dan gytundeb i Lywodraeth Cymru. Rydym yn ymfalchïo yn ein dealltwriaeth o’r arfer orau o ran cynllunio a chyflwyno’r agwedd FfLlRh o’r Sgiliau trawsgwricwlaidd, dilyniant a chynnydd yn y FfLlRh ac asesu sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr yn ffurfiannol ac yn grynodol.

 

MEYSYDD DYSGU A PHROFIAD A PHWNC-BENODOL

Mae gennym ystod eang o hwyluswyr pwnc arbenigol, sy’n wybodus a phrofiadol iawn. Mae gan bob un brofiad o gyfrifoldeb ysgol gyfan ac maent wedi llwyddo i addysgu eu pwnc am flynyddoedd lawer. Mae llawer ohonynt yn gweithio o fewn Sefydliadau Dyfarnu (AA) ar gyfer TGAU a/neu Safon Uwch, neu maen nhw’n Reoleiddwyr Sefydliadau Dyfarnu ar gyfer Ofqual a/neu Cymwysterau Cymru. Felly, maent mewn sefyllfa ddelfrydol i ddeall materion cyfredol o fewn eu maes. Maent i gyd yn hwyluswyr profiadol ac ysgogol sy'n credu’n angerddol fod pob plentyn yn haeddu llwyddiant.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig hyfforddiant mewn swydd pwnc-benodol mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, STEM, y dyniaethau, ieithoedd tramor modern, cerddoriaeth, Saesneg a Chymraeg ail iaith yn y Cyfnod Sylfaen, CA2, CA3 ac Ôl-16. Mae ein holl gyrsiau pwnc-benodol yn canolbwyntio ar yr arfer orau wrth weithredu'r pwnc o fewn ei Faes Dysgu a Phrofiad (MDaPh) ac wrth wneud cysylltiadau â Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill.

 

DARPAR ARWEINWYR YSGOL

Rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd DPP i ddarpar arweinwyr ysgol. Mae ein hymgynghorwyr yn y maes hwn i gyd wedi bod yn uwch reolwyr ysgolion llwyddiannus yn ddiweddar, unai yn y cyfnod cynradd neu’r cyfnod uwchradd. Byddwn yn edrych ar rôl rheolwyr canol ac uwch reolwyr ac ar sut y gellir gwella sgiliau a gwybodaeth cyfranogwyr unigol. Ategir hyn gan fentora yn ystod y broses o wneud cais am swydd rheolwr canol neu uwch reolwr, techneg cyfweld a strategaethau i wella siawns cyfranogwyr o gael dyrchafiad.