info@thinklearnchallenge.com // 029 20865570

Stuart Ball

Dechreuodd Stuart ei yrfa mewn addysg fel athro ysgol gynradd, gan gael dyrchafiad i fod yn ddirprwy bennaeth ac yna’n bennaeth ysgol gynradd. Yn ystod y cyfnod hwn, enillodd wobrau am ei arfer yn yr ystafell ddosbarth, sef Athro Gwyddoniaeth Gynradd y Flwyddyn ac Athro Arloesol Microsoft y Flwyddyn. Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ac erthyglau am wyddoniaeth gynradd a'r defnydd o dechnoleg yn yr ystafell ddosbarth. Dros y 10 mlynedd diwethaf mae wedi gweithio fel Efengylydd Addysg ar gyfer Microsoft, gan weithio gydag athrawon a myfyrwyr ledled y byd ar ddatblygu a gweithredu arfer dosbarth yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae Stuart wedi gweithio fel ymgynghorydd addysgol i ysgolion, diwydiant a sefydliadau eraill. Mae’n defnyddio’r dulliau wyneb-yn-wyneb traddodiadol wrth ymgysylltu a cheisio hyrwyddo newid, a hefyd mae’n defnyddio profiadau digidol i wneud y mwyaf o ymgysylltiad a chyrhaeddiad. Mae'r prosiectau y mae Stuart yn gweithio arnynt yn ymdrechu i sicrhau bod myfyrwyr ac addysgwyr yn datblygu sgiliau craidd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Yn ei waith ymgynghorol, datblyga strategaethau a chynnwys hyfforddiant proffesiynol trwy gyfrwng ffyrdd megis cymuned, hyfforddiant a mentora fel y gall ysgolion ac athrawon gyflwyno cwricwlwm sy'n cwrdd ag anghenion myfyrwyr yn yr unfed ganrif ar hugain.

Ar hyn o bryd, mae Stuart yn gweithio fel Arweinydd Rhwydwaith Rhanbarthol ar gyfer dysgu STEM.