info@thinklearnchallenge.com // 029 20865570

Shelley Deacon

Mae Shelley yn weithiwr proffesiynol hyblyg ym maes addysg ac ac mae ganddi awch am heriau newydd. Mae hi'n ymarferydd cynradd profiadol ar draws y cyfnod cynradd (Meithrin i Flwyddyn 6) mewn amrywiaeth o ysgolion. Cwblhaodd Shelley ei MA mewn Addysg yn 2018, ochr yn ochr ag addysgu Blwyddyn 3 yn rhan-amser, a chanfu ddiddordeb yn gyflym mewn ymchwil ac academia.

Ar hyn o bryd, mae Shelley yn ddarlithydd ac ymchwilydd, ar ôl trosglwyddo i Addysg Bellach/Addyg Uwch ac academia ym Mhrifysgol De Cymru a Choleg y Cymoedd. Mae hi wedi bod yn ymchwilydd gweithgar yn ei rol fel person graddedig ar brofiad gwaith mewnol, hefyd ym Mhrifysgol De Cymru, gan gynnwys ymchwil a ariennir yn allanol yn ymwneud â dysgu dadansoddol ar gyfer JISC. Mae ei phrosiectau ymchwil eraill yn cynnwys astudiaethau demograffig a marchnata cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch, gan gynnwys cyfrifoldeb am broffil Instagram penodol yr ysgol o fewn Prifysgol De Cymru: @usw_lifesci_edu a bu’n hyrwyddo eco-ymddygiad cynaliadwy ar ffurf astudiaeth beilot.

Yn ddiweddar, cafodd ei dilysu gan y Cyngor Prydeinig i ddarparu Datblygiad Proffesiynol Parhaus mewn Dysgu Byd-eang i staff addysgu mewn ysgolion, fel rhan o gontract Cysylltu Dosbarthiadau TLC. Mae hi’n chwilfyrydig ynghylch materion sy'n ymwneud ag addysg, rhywedd a dysgu cymdeithasol-emosiynol, ond mae’r materion hyn hefyd yn peri pryder iddi.

Mae Shelley yn angerddol ynghylch datblygu dull cynhwysol o fewn cyd-destun y cwricwlwm newydd i Gymru a hefyd hyrwyddo lles a'i effaith ar iechyd meddwl yn yr ysgol a chydol oes. Mae wedi ymrwymo i ymchwil sy'n ymwneud ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol (SEBD) mewn perthynas â gwahaniaethu o ran rhywedd, gyda ffocws penodol ar fechgyn mewn lleoliadau ysgolion cynradd a chanlyniadau iechyd meddwl hirdymor.