info@thinklearnchallenge.com // 029 20865570

Rhiannon Wynn Jenkins

Mae Rhiannon wedi addysgu yn y sector cyfrwng Cymraeg am 36 mlynedd a mwy, gan weithio ledled Cymru fel hyfforddwr ac ymgynghorydd annibynnol. Ers 2010, hi yw’r “arbenigwr pwnc ar gyfer Cymraeg fel iaith gyntaf yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3, 4 a 5” i Lywodraeth Cymru. Yn y gorffennol, mae hi wedi bod yn ddirprwy bennaeth, athrawes ymgynghorol (Cymraeg a Saesneg) a darlithydd prifysgol ym mhob agwedd ar lythrennedd.

O fewn Llywodraeth Cymru, chwaraeodd Rhiannon ran allweddol yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y Prosiect Ymyrraeth Pisa, fu’n gyfrifol am ledaenu arfer dda mewn addysgu ledled Cymru. Roedd hi hefyd yn allweddol yn natblygiad yr elfennau ac agweddau o fewn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd cyfrwng Cymraeg.

Hefyd, mae’n comisiynu ac yn monitro adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer ysgolion i Lywodraeth Cymru. Yn ychwnaegol, mae hi’n Fentor Allanol i Athrawon Newydd Gymhwyso (cynradd ac uwchradd) ac yn ymgynghorydd cyfrwng Cymraeg i NACE (National Association for Able Children in Education).

Drwy gydol ei chyfnod fel hyfforddwr ag arbenigedd mewn sgiliau darllen, ysgrifennu a meddwl, mae Rhiannon wedi ymfalchïo yn ei gwybodaeth o theori’r pynicau hyn ac hefyd yn ei gallu i weithio o fewn y sefyllfa ddosbarth gan ddangos i athrawon a staff cynorthwyo sut i weithredu’r arfer mwyaf diweddar a pherthnasol.