info@thinklearnchallenge.com // 029 20865570

Meinir Lloyd Jones

Yn dilyn 12 mlynedd fel Dirprwy a Phennaeth yn Ysgol Bro Gwydir, Llanrwst, mae Meinir bellach yn ymgynghorydd addysg hunangyflogedig.  Mae ganddi brofiad eang fel pennaeth, a sicrhaodd ragoriaeth trwy gynnig arweinyddiaeth flaengar a chadarn a gosod cyfeiriad strategol clir i ddatblygiad yr ysgol.

Bu’n aelod o grwpiau defnyddwyr gyda GwE, gweithgorau OECD ac Estyn.  Mae ganddi brofiad helaeth fel arolygydd cymheiriaid Estyn.

Bu’n arwain nifer o brosiectau llwyddiannus gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol.  Mae wedi darparu hyfforddiant o fewn yr ysgol a thu hwnt mewn meysydd amrywiol, gan gynnwys:

Fel mentor, mae Meinir wedi cefnogi a herio staff unigol a myfyrwyr. Mae sicrhau fod disgyblion yn derbyn addysg gan ymarferwyr o’r radd flaenaf yn greiddiol i’w gweledigaeth.