info@thinklearnchallenge.com // 029 20865570

Jeffrey Cole

Am bron i bedair blynedd mae Jeff wedi bod yn Arloeswr Cwricwlwm Dyniaethau ac yn Arloeswr Dysgu Proffesiynol. Mae'n un o Arweinwyr Rhwydwaith y Dyniaethau ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De ac ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd Rhwydwaith Cenedlaethol y Dyniaethau. Felly, fe ysgrifennodd y rhan hon o Gwricwlwm 2022 ac mae'n arwain ar ei weithredu a'i fireinio. Mae Jeff hefyd yn ymwneud â'r prosiect addysgeg cenedlaethol o’r enw Talk Pedagogy, Think Learning, ac mae wedi gwasanaethu fel Ymgynghorydd Cyswllt ar gyfer Dysgu Proffesiynol gyda Chonsortiwm Canolbarth y De. Mae wedi arwain gweithdai ar y cwricwlwm newydd ledled Cymru ar ran y pedwar rhanbarth a Llywodraeth Cymru.

Mae Jeff wedi addysgu am 25 mlynedd, yn Lloegr yn ogystal ag yng Nghymru; mewn cymunedau gwledig, dinesig ac yn y cymoedd; gan addysgu myfyrwyr ar bob pen i'r sbectrwm economaidd-gymdeithasol. Mae wedi arwain adrannau, cyfadrannau, a phrosiectau ysgol gyfan, ac yn benodol bu’n gyfrifol am sefydlu cwricwlwm rhyngddisgyblaethol yn canolbwyntio ar feddylfryd, 10 mlynedd cyn i Donaldson gyhoeddi Dyfodol Llwyddiannus.

Mae Jeff yn arloeswr cwricwlwm profiadol a llwyddiannus. Mae bellach yn cefnogi ysgolion i gwrdd â'r heriau, a chynyddu’r cyfleoedd a ddaw yn sgil Cwricwlwm 2022 i'r eithaf, ac i greu cwricwla ysbrydoledig sy'n benodol i anghenion yr ysgol unigol.