info@thinklearnchallenge.com // 029 20865570

Harriet Davies-Cox

Yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, mae Harriet Davies-Cox wedi datblygu llawer o brofiad fel ymarferydd cyfnod sylfaen yng Nghaerdydd a Chymoedd De Cymru.

Dechreuodd Harriet ar ei thaith addysgu ar ôl cwblhau gradd BA Addysg gyda Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, a dyma pryd y datblygodd ei hangerdd yn y dull plentyn-ganolog o addysgu a dysgu.

Yr angerdd hwn sydd gan Harriet dros y seicoleg y tu ôl i ddysgu fu’n gyfrifol iddo gael y rol o arweinydd ABCh yn ei hysgol gynradd, a bu’n cyflwyno ei gwaith ar lythrennedd emosiynol ac asesu sgiliau ABCh o fewn yr awdurdod lleol. Mae Harriet yn ymarferydd THRIVE hyfforddedig ac mae hyn yn sail bellach i'w hathroniaeth ar gyfer dysgu, gan ei bod yn sicrhau bod lles y plentyn wrth wraidd pob menter yn yr ysgol.

Ar hyn o bryd mae Harriet yn mwynhau gweithio fel arweinydd Cyfnod Sylfaen ac mae hefyd yn arwain datblygiad Llythrennedd ar draws yr ysgol. Mae ganddi brofiad helaeth o wreiddio strategaeth yn llwyddiannus i godi cyrhaeddiad a chynnydd disgyblion, ynghyd â datblygu sgiliau athrawon a chymorthyddion addysgu fel ei gilydd.

Yn flaenorol, mae Harriet wedi gweithio gyda TLC i ddatblygu gweithgareddau STEM ar gyfer y cwricwlwm newydd yng Nghymru.